Opera Cenedlaethol Cymru

Opera Cenedlaethol Cymru
Enghraifft o'r canlynolcwmni o actorion, cwmni opera Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1943 Edit this on Wikidata
LleoliadCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.wno.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) (Saesneg: Welsh National Opera) yn gwmni teithiol opera a sefydlwyd yn 1943. Dechreuodd fel cwmni amatur ac wedyn fe ddatblygodd mewn i ensemble proffesiynol erbyn 1973. Yn ei dyddiau cynnar fe gafwyd tymor blynyddol yn para am wythnos yng Nghaerdydd, gan ehangu ei amserlen i ddod yn gwmni perfformio drwy'r flwyddyn, gyda chorws a cherddorfa gyflogedig. Mae bellach yn teithio Cymru, Gwledydd Prydain a gweddill y byd gryn dipyn.

Am ran fwyaf o'i fodolaeth, nid oedd gan WNO ganolfan parhaol yng Nghaerdydd, ond yn 2004 fe symudodd i Ganolfan Mileniwm Cymru, ym Mae Caerdydd a oedd newydd agor i'r cyhoedd ar y pryd. Mae'r cwmni yn teithio o gwmpas Prydain ac yn teithio'n rhyngwladol, gan roi fwy na 120 o berfformiadau yn flynyddol, gyda repertoireo 8 operâu gwahanol i gynulleidfaoedd o dros 150,000 o bobl. Mae mannau perfformio yn ogystal â Chaerdydd yn cynnwys Llandudno, Bryste, Birmingham, Lerpwl, Milton Keynes, Rhydychen, Plymouth a Southampton.

Mae cantorion sydd â hanes gyda'r cwmni yn cynnwys Geraint Evans, Robert Tear, Gwyneth Jones, Margaret Price, Bryn Terfel, a Rebecca Evans. Mae artistiaid gwadd o wledydd eraill yn cynnwys Joan Hammond, Tito Gobbi ac Elisabeth Söderström. Ymhlith yr arweinwyr sydd wedi arwain y cwmni yw Pierre Boulez, Charles Mackerras, Reginald Goodall a James Levine. Ers 2019, mae'r cwmni wedi'i arwain gan ei Gyfarwyddwr Cyffredinol, Aidan Lang.

Ers y 1970au mae'r cwmni'n perfformio'r operâu yn yr iaith wreiddiol gan gynnwys Eidaleg, Almaeneg, Ffrangeg, Rwseg a Tsieceg. Darperir uwchdeitlau i'r gynulleidfa ddeall y stori.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy